Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod dadl yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n dweud y byddai yn rhatach a mwy effeithiol iddo ddelio gyda chwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg.

Dan y drefn bresennol Comisiynydd y Gymraeg sy’n delio gyda chwynion o’r fath.

Ond mewn “cyfarfod cudd” rhwng Llywodraeth Cymru a Nick Bennett, yr Ombwdsmon sy’n gyfrifol am gwynion yn sector cyhoeddus Cymru, mae’r Ombwdsmon yn dweud y gallai fod yn rhatach pe bai ei swyddfa yn delio gyda chwynion iaith.

Mae cofnodion y cyfarfod yn nodi bod yr Ombwdsmon ‘wedi delio gyda thua 2,300 o gwynion newydd yn 2016/17 gyda chyllideb o £4.2 miliwn tra bod y Comisiynydd wedi delio â 250 o gwynion yn 2015/16 gyda chyllideb o £3.4 miliwn.

‘Cynigodd Nick Bennett y gallai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddarparu ffordd fwy cost-effeithiol o ddelio ac ymchwilio i’r cwynion am safonau’r Gymraeg.’

Swydd i Nick Bennett “yn tanseilio’r Gymraeg”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r “cyfarfod cudd” gan ddweud “bod cynllwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Nick Bennett i gael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg”.

“Mae’r ffordd mae’r Ombwdsmon presennol wedi delio gyda chwynion iaith yn wrth-Gymraeg. O bell o fod yn werth am arian felly, byddai rhoi’r swydd iddo fe’n tanseilio’r Gymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Ac o edrych ar y trafodaethau cudd rhwng y Llywodraeth a fe, dyw e’ ddim yn annibynnol o’r Llywodraeth ac mae ei swyddfa’n gweithredu’n fewnol yn Saesneg.

“Edrychwch ar beth wnaeth e’ gyda Chyngor Cymuned Cynwyd – fe greodd hawliau i’r Saesneg. Mae’r Llywodraeth yn amlwg yn despret.

“Dydyn nhw ddim yn gwybod be maen nhw’n wneud. Mae’r papur gwyn yn syrthio’n ddarnau.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r syniad bod cynllwyn ar y gweill “yn hollol hurt”, nid yw cyfarfodydd o’r fath yn anghyffredin ac fe gafodd y cyfarfod ei drefnu “yn rhan o’r broses ymgynghori ar y Papur Gwyn”.

Llywodraeth “methu rheoli’r Comisiynydd”

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, Adam Price, a gafodd wybod am y “cyfarfod cudd” drwy ofyn cwestiwn ysgrifenedig i’r Llywodraeth, mae’n gais bwriadol i ddiddymu’r Comisiynydd.

“Y rheswm am ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg yw bod Comisiynydd y Gymraeg yma wedi’i phrofi yn annibynnol o’r Llywodraeth,” meddai.

“Hynny yw, nid yn unig yn annibynnol yn ôl llythyren y ddeddf ond yn ysbryd y ddeddf hefyd.

“Mae’r cynnydd yn syfrdanol, mae’r system yn gweithio o ran rheoleiddio, felly pam cael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg? Achos dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gallu rheoli nhw.

“Mae hwn yn un enghraifft arall o’r ymagwedd gwladwriaeth un blaid. Mae unrhyw beth sydd y tu fas i reolaeth y Llywodraeth yma a’r Blaid Lafur yn gorfod cael ei ddiddymu.”

Mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon, dywed Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg newydd, bod ei meddwl yn dal yn agored ar rôl Comisiynydd y Gymraeg ac na fydd penderfyniad tan i’r ymgynghori ar Fesur y Gymraeg ddod i ben.

“Chwerthinllyd”

Dywedodd llefarydd ar ran Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:  “Fel mae’r Ombwdsmon wedi’i nodi’n flaenorol, mae’n gwrthod yn llwyr y syniad a gyflwynwyd gan Gadeirydd Cymdeithas ei fod wedi atal corff cyhoeddus rhag gweithredu yn y Gymraeg. Mae’r syniad bod yr Ombwdsmon yn wrth-Gymreig yn chwerthinllyd a byddai’n fwy na pharod i gyfarfod y Cadeirydd i roi sylw i’r dehongliad camarweiniol hwn.

“Mae cyfrannu at broses ymgynghori’n drefn arferol ac yn rhywbeth mae’r Ombwdsmon wedi’i wneud yn rheolaidd ers iddo gael ei benodi. Nid yw hyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar ei annibyniaeth.

“Byddai’n drist iawn os na allwn ni ledaenu arfer gorau o rannau eraill o Ewrop, gan gynnwys Catalwnia a Gwlad y Basg, a chael trafodaeth aeddfed am y mater hollbwysig hwn.”