Mae teulu’r diweddar Aelod Cynulliad Carl Sargeant wedi dweud y bydd ei angladd yn ddiwrnod o ddathlu, gan annog pobol i beidio â gwisgo du na gwisg ffurfiol.

Bydd angladd y cyn Weinidog, a fu farw ddechrau’r mis yn digwydd ddydd Gwener nesa’, 1 Rhagfyr, yn Eglwys Sant Marc yng Nghei Conna, lle mae disgwyl miloedd o bobol.

Ond does dim cadarnhad eto a fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn mynd wrth iddo wynebu cwestiynau am y ffordd deliodd â honiadau o aflonyddu rhywiol a wnaed yn erbyn Carl Sargeant ddyddiau cyn ei farwolaeth.

Mae’n debyg fod y cyn Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy, oedd yn 49 oed, wedi lladd ei hun.

‘Dathlu nid galaru’

“Mae fy mam Bernie, fy chwaer Lucy a fi wedi penderfynu y dylai’r diwrnod fod yn ddathliad o fywyd dad ac nid yn ddiwrnod ar gyfer galaru,” meddai mab Carl Sargeant, Jack.

“Bydd pawb oedd yn adnabod dad yn deall na fyddai e wedi eisiau hi mewn unrhyw ffordd arall. Doedd e byth yn un am swae. Doedd e byth yn un am hen gleme. Doedd hynny byth yn ei steil.

“Felly, gofynnwn i bobol beidio â gwisgo gwisg ffurfiol neu ddu ar y diwrnod hwn o ddathlu. Rydym am i bobol wisgo rhywbeth sy’n eu gwneud yn hapus ac i ddod i gofio dad fel oedd e – caredig, hael ac enaid pob parti.

“Mae croeso i bob ffrind – o bell ac agos – ddod i Eglwys Sant Marc i ymuno â ni.”