Fe fydd cyfres o drefniadau diogelwch llymach ar waith yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yr wythnos nesa’, yn rhannol oherwydd marwolaeth dyn ifanc yn y Sioe Fawr eleni.

Rhan o hynny fydd bod heddlu arfog i’w gweld yn crwydro’r maes, mwy o arwyddion ar hyd y lle a threfniadau parcio newydd o ganlyniad i’r tywydd gwlyb diweddar.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal digwyddiad llwyddiannus arall,” meddai Steve Hughson wrth golwg360 gan ddweud mai ei brif fwriad yw sicrhau fod y digwyddiad “yn un diogel.”

‘Gweithio mewn partneriaeth’

Fe ddaeth cysgod dros y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf oherwydd marwolaeth James Corfield 19 oed, o Drefaldwyn a gafwyd yn farw yn Afon Gwy yn Llanfair ym Muallt.

Ers hynny mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd ag awdurdodau eraill gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Llanfair ym Muallt.

Prif bwrpas y grŵp hwn yn ôl Steve Hughson, sy’n gyn uwch-swyddog gyda’r heddlu, “yw gwneud yn siŵr fod pawb yn gweithio mewn partneriaeth” i wella holl brofiad y sioe – o’r digwyddiadau cysylltiol i’r diogelwch o gwmpas yr afon a’r heolydd, meddai.

“Ni’n gweithio’n agos gyda’r teulu,” meddai gan ddweud ei bod hi’n “bwysig i wneud yn siŵr fod unrhyw wersi’n cael eu dysgu”.

Parcio a heddlu

Mae’r Prif Weithredwr wedi cadarnhau y bydd trefniadau parcio newydd ar waith yn dilyn y tywydd gwlyb diweddar gyda gyrwyr cerbydau 4×4 yn cael eu hannog i barcio ar rannau o’r meysydd parcio na fyddai ceir llai yn gallu eu cyrraedd.

Fe fydd heddlu arfog hefyd i’w gweld ar y maes – fel yn y Sioe Fawr – a hynny yn sgil ymosodiadau brawychol fel rhai Manceinion a Llundain.

“Mae’n rhaid inni fod yn gall,” meddai Steve Hughson gan ychwanegu – “dw i’n credu y byddem ni’n annoeth ac yn cael ein beirniadu os byddai rhywbeth yn digwydd a bod gennym ni ddim ffordd i ddelio ag e.”

Sioe arbennig

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y sioe arbennig hon,” meddai wrth golwg360 gan ddweud fod “naws Nadoligaidd hynod yno.”

“Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo cynnyrch bwyd Cymreig, gwneud siopa Nadolig a gweld stoc o safon arbennig, a dw i’n edrych ymlaen at ŵyl lwyddiannus.”