Fe fu’n rhaid clirio pedwar bloc o fflatiau yn Llanelli neithiwr oherwydd tân ar un o’r grisiau.

Fe gafodd y trigolion lety brys dros nos ar ôl i’r awdurdodau osod man clir am 100 metr o amgylch y tai.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, roedd y tân yn Granby Close, Llanelli, dan reolaeth yn gyflym ac roedd pob un o’r trigolion yn ddiogel.

Fe aethpwyd ag un dyn i’r ysbyty gyda phroblemau anadlu mwg, rhag ofn, a chafodd pedwar o bobol ychydig o driniaeth yn y fan a’r lle.

Yn ôl y Cynghorydd Linda Evans, sy’n gyfrifol am dai ar Gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin, roedd swyddogion wrth law i helpu’r trigolion ond roedd y rhan fwya’ wedi dod o hyd i lety dros dro eu hunain.