Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i gynnal ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlian o fewn Llywodraeth Cymru – ac mae wedi sefydlu system annibynnol newydd i oruchwylio’r Cod Gweinidogol.

Mae system debyg yn bodoli yn barod yn Yr Alban, ac mae wedi cyfeirio’r ymchwiliad at James Hamilton, Ymgynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Yr Alban.

Mae pwysau wedi bod ar y Prif Weinidog i gynnal ymchwiliad annibynnol yn dilyn cyfres o honiadau o fwlian sydd wedi dod i’r amlwg ers marwolaeth yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant.

Yn ogystal mae pleidlais yn cael ei chynnal yn y siambr ddydd Mercher nesaf, yn dilyn cynnig gan y Ceidwadwyr, i benderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad  i’r honiadau o fwlio o fewn rhengoedd ucha’r llywodraeth.