Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn rhaid talu costau am gladdu neu amlosgi plant yng Nghymru.

Bwriad hyn, yn ôl Carwyn Jones, yw “lleddfu rhywfaint o’r pwysau sydd ar ysgwyddau rhieni sy’n galaru”.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Prif Weinidog arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda chynghorau lleol i beidio â chodi ffioedd am gladdu plant.

Yn rhan o hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1.5m rhwng nawr a 2020 i gynorthwyo â’r trefniadau.

‘Cefnogi teuluoedd’

“Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli plentyn,” meddai Carwyn Jones.

“Rwy’n falch ein bod yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol i leddfu rhywfaint o’r pwysau sydd ar ysgwyddau rhieni sy’n galaru yn ystod cyfnod hynod dorcalonnus.”

Mae’n nodi hefyd fod y costau’n gallu amrywio rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru ac felly “bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi diwedd ar yr annhegwch a achosir wrth godi gwahanol ffioedd ar draws Cymru”.