Mae gwasanaethau canser Cymru yn “parhau i wella” gyda mwy o gleifion yn cael eu trin o fewn yr amser targed, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ôl datganiad blynyddol y llywodraeth, mae 17,201 o bobol wedi dechrau ar driniaeth canser yn ystod 2016 – 2017.

O’r rheiny, cafodd 15,912 eu trin o fewn yr amser targed, sy’n 12% yn fwy na’r ffigwr bum mlynedd yn ôl.

Mae canfyddiadau eraill yr adroddiad yn nodi fod 72% o bobol a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2010 a 2014 yn byw am o leiaf un flwyddyn.

Ffordd newydd o fesur

Mae Vaughan Gething wedi galw ar fyrddau iechyd ymrwymo i “lwybr newydd” i fesur amseroedd aros triniaethau gan ddechrau o’r cyfnod pan fo claf yn amau fod ganddo ganser.

“Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd hon o fesur amseroedd aros ar gyfer triniaeth am ganser yn helpu cyrff y gwasanaeth iechyd i wella perfformiad, ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau canser,” ychwanegodd.

‘Addysgu a chefnogi’

“Canser yw’r afiechyd sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru â’r Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

“Rydym angen addysgu a chefnogi pobol i leihau’r risg o gael canser, drwy roi’r gorau i ysmygu, gwella deiets a gwneud mwy o ymarfer corff, yn ogystal â lleihau lefelau yfed niweidiol a chysylltiad â phelydrau uwchfioled,” meddai.

“Ni ddylem anghofio ei bod yn bosibl rhwystro tua phedwar achos o ganser o bob deg.”