Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi wedi croesawu’r cyfeiriad yng nghyllideb Philip Hammond at Fargen Dwf gogledd Cymru, gyda thrafodaethau ar y gweill am gynllun tebyg i ganolbarth Cymru hefyd.

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor fod cynnydd ar gytundeb twf gogledd Cymru, a dechrau ar drafodaethau ar gytundeb tebyg i ganolbarth Cymru,” meddai Nick Ramsay, AC Mynwy.

“Rydym wedi gweld mesurau i gael mwy o bobol i mewn i waith o ansawdd sy’n talu’n dda a lleihau baich treth incwm gan adael mwy o arian ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed.”

Mae prif gyhoeddiadau eraill y gyllideb yn cynnwys £1.5bn o gymorth i bobol sy’n derbyn credyd cynhwysol.