Mae hunangofiant gŵr fu’n ymgyrchu’n galed dros hawliau cleifion canser bellach wedi’i bwrw i’r byd.

Ac mae gweld y gwaith rhwng dau glawr yn “gymysgedd o emosiynau” yn ôl gweddw Irfon Williams o Fangor, sef Becky Williams.

“Dw i mor hapus fod Irfon wedi gorffen y llyfr, roedd o’n benderfynol i ysgrifennu’r llyfr. Ond mae’n drist iawn fod Irfon ddim yma i weld y llyfr yn cael ei argraffu nac i fod yn y lansiad,” meddai wrth golwg360.

‘Yn ei eiriau ei hun’

Mi ddaeth Irfon Williams, oedd yn dad i bump o blant ac yn nyrs iechyd meddwl, yn enw adnabyddus ledled Cymru am ei waith ymgyrchu a chodi arian am driniaethau canser.

Un o’i brif ymgyrchoedd oedd galw am fynediad at gyffuriau allai ymestyn bywydau cleifion canser.

“Mae hunangofiant Irfon yn sôn am ei siwrnai drwy’r broses o gael diagnosis o ganser, ac mae’n mynd yn ôl at pan oedd o’n blentyn a sut mae tyfu fyny wedi cael effaith ar sut berson oedd o,” meddai Becky Williams.

“Yn ei eiriau ei hun, Irfon sydd wedi ysgrifennu’r cyfan pan oedd o yn yr ysbyty yn sâl iawn,” meddai gan esbonio y byddai’n cofnodi’i brofiadau yn ystod y dyddiau olaf.

Codi arian

Ym mis Awst mi gafodd Irfon Williams ei anrhydeddu i’r Orsedd am ei waith ymgyrchu gyda Becky Williams yno i dderbyn y tystysgrif ar ei ran.

“Mi oedd cael gwybod ei fod wedi’i dderbyn i’r orsedd yn golygu llawer iddo,” meddai gan ddweud ei bod am barhau i godi arian dan enw’r ymgyrch ‘Tîm Irfon’.

“Mae pobol yn gwneud sialensiau eu hunain… a dw i’n gobeithio cael cinio codi arian yn y flwyddyn newydd hefyd.”

Hawl i fyw

Yn cyfrannu at y gyfrol mae Hywel Williams AS, Rhys Meirion, Mari Pritchard a Mr Malik, ei lawfeddyg yn Ysbyty Aintree, Lerpwl.

Mi fydd Hawl i Fyw yn cael ei lansio nos Wener (Tachwedd 24) yng Nghlwb Rygbi Bangor yng nghwmni’r cantorion Rhys Meirion ac Elin Fflur, ynghyd â’r actor Llion Williams a fydd yn darllen darnau o’r gyfrol.