Trydan sydd yn gyfrifol am danio dros hanner tanau domestig Cymru, yn ôl ymchwil gan elusen.

O’r 3,3101 o danau domestig damweiniol yng Nghymru y llynedd, cafodd 1,934 eu hachosi gan drydan – sef 58%.

Mae ymchwil ‘Diogelwch Trydanol yn Gyntaf’(ESF)  hefyd yn dangos y cafodd 2,852 o bobol eu lladd gan danau â tharddiad trydanol yn 2015-16.

Mae hyn yn gyfwerth â phum marwolaeth yr wythnos.

“Problem fawr”

“Mae gan Gymru broblemau fawr o ran tannau sy’n cael eu hachosi gan drydan,” meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus ESF.

“Ac, rydym wedi tynnu Llywodraeth Cymru at hyn, ar sawl achlysur … Mae’n rhaid hysbysu’r cyhoedd am y risgiau a rhaid cyflwyno mesurau i fynd i’r afael a hyn.”