Mae ymchwiliad yn parhau yng ngogledd Rhondda Cynon Taf, wedi i eitemau amheus gael eu darganfod yno.

 

Derbyniodd yr heddlu adroddiadau am 6.15yb fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 21), pan wnaeth aelod o’r cyhoedd ddod ar draws yr eitemau ger coedwig yn ardal Hirwaun wrth fynd a’u ci am dro.

 

Daeth uned difa bomiau o hyd i dair eitem yn yr ardal, ac mae chwiliadau yn parhau yno. Bellach mae Ffordd Penderyn wedi ailagor.

 

Mae ardal gorsaf heddlu Hirwaun ar gau i’r cyhoedd o hyd, wedi i bedwaredd eitem amheus gael ei ddarganfod.

 

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru trwy ffonio 101, neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700457367.