Dylai bod Llywodraeth Cymru yn meddu ar y pwerau i ddatganoli fisas myfyrwyr, yn ôl Plaid Cymru.

Daw’r galw yn sgil cyhoeddiad ymchwil sy’n dangos bod llai o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio yng Nghymru o gymharu â phedair blynedd yn ôl.

Yn ôl sefydliad Prifysgolion Cymru, bu cwymp o 16.2% yn y nifer o fyfyrwyr o du allan i’r Undeb Ewropeaidd oedd yn astudio yng Nghymru dros y cyfnod yma.

A tra bod niferoedd wedi disgyn yng Nghymru, mae’r ffigwr wedi cynyddu yn Lloegr a’r Alban.

“Y gorau a’r disgleiriaf”

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Llŷr Gruffydd, mae’r ystadegau yn dangos bod angen newid y drefn fel bod Cymru’n medru denu’r “gorau a’r disgleiriaf”.

“Mae myfyrwyr tramor yn dod â sgiliau newydd, maent yn cyfoethogi ein cymunedau a’n bywyd diwylliannol, ac yn creu cysylltiadau â gwledydd eraill,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Dyna pam fy mod am i Lywodraeth Cymru gael y gallu i gyhoeddi fisas myfyrwyr. Rwyf eisiau i Gymru allu targedu’r myfyrwyr gorau a’r disgleiriaf i astudio yno, i gyfrannu eu sgiliau gwerthfawr i’n prifysgolion a’n heconomi.”