Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal un o’u cyrch cyffuriau mwyaf yn hanes y llu heddiw gan archwilio 30 o leoliadau yng Nghonwy ac Ynys Môn.

 

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud nifer o arestiadau ac wedi cipio cyffuriau ac arian parod wrth iddyn nhw dargedu grwpiau sy’n dosbarthu cyffuriau Dosbarth A.

 

Bu swyddogion o luoedd Glannau Mersi a Manceinion yn eu cynorthwyo  hefyd wrth iddyn nhw chwilio lleoliadau yn Lerpwl a Manceinion yn rhan o ymgyrch Operation Zeus.

 

‘Blaenoriaeth’

 

“Mae ein hymroddiad i gadw ein cymunedau yn parhau’n flaenoriaeth, ac rwy’n siŵr y gwnaiff ein gweithred heddiw dawelu meddwl llawer,” meddai Mark Armstrong, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.

 

“Hoffwn ddiolch i gymunedau ar Ynys Môn, Conwy a Lerpwl a Manceinion am eu hamynedd, dealltwriaeth a chymorth wrth i’r ymgyrch ddatblygu.”

 

“Bydd delio â masnachu cyffuriau o unrhyw fath yn parhau’n flaenoriaeth. Mae’n dod â thristwch, trais a gorelwa i’n strydoedd,” meddai gan ychwanegu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o’r fath gysylltu drwy sgwrs fyw ar eu gwefan, ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111