Gan ddilyn esiampl dinas Caer Efrog, mae’n debyg bod cynghorwyr Abertawe eisiau i’w dinas gael ei ddynodi’n ‘Ddinas Hawliau Dynol’.

Ar ddydd Mawrth (Tachwedd 21) mi fydd cynghorwyr yr Awdurdod Lleol yn trafod y posibilrwydd o wneud cais am y teitl.

Trwy fabwysiadu’r teitl byddai’r ddinas yn ymrwymo “i amddiffyn a hybu” hawliau dynol, a’u gosod wrth graidd eu polisïau.

Erbyn hyn mae dros 100 o ddinasoedd ledled y byd yn meddu ar y teitl.

Os caiff Abertawe ei dynodi’n ‘Ddinas Hawliau Dynol’, hi fydd yr ail o’i math ym Mhrydain a’r cyntaf yng Nghymru.