Mae pwyllgor busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu agor y llawr i’r siambr bleidleisio a oes angen cynnal ymchwiliad i’r honiadau o fwlio yn rhengoedd uchaf Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i’r ddadl gael ei chynnal yn ystod y cyfarfod llawn dydd Mercher nesaf, a daw’r cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’n dilyn honiadau diweddar gan y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, a ddywedodd fod “awyrgylch wenwynig” o fewn coridorau’r Llywodraeth.

Yn ogystal, yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, daeth honiadau gan Steve Jones a fu’n ymgynghorydd arbenigol i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn cefnogi sylwadau Leighton Andrews.

Ond mewn ymateb ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw’n “adnabod y sylwadau” fod bwlio o fewn rhengoedd ucha’r llywodraeth.

‘Cwestiynau heb eu hateb’

Pe bai’r ymchwiliad yn cael ei gymeradwyo byddai tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan dystion gan gynnwys Carwyn Jones gyda disgwyl i’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad erbyn mis Chwefror 2018.

“Rydym yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Busnes i gefnogi ein hargymhelliad ac rydym yn edrych ymlaen i’w drafod yn y cyfarfod llawn yr wythnos nesaf,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae cwestiynau o raddfa fawr yn parhau heb eu hateb gan y Prif Weinidog a bydd y ddadl hon yn gam cyntaf tuag at gael rhywfaint o gyfrifoldeb,” meddai.

“Rydym yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio hwn fel cyfle i osod pethau’n iawn ynglŷn â’r honiadau ac esbonio’i hun yn llawn i’r Cynulliad.”