Yn ôl adroddiad i Gabinet Cyngor Sir y Fflint mae’r awdurdod lleol yn wynebu “nifer sylweddol o heriau” yn gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol.

Mae’r adroddiad gan Brif Swyddog Cymunedau a Menter y sir, Clare Budden, yn tynnu sylw at nifer o broblemau sy’n effeithio’r rhai sy’n hawlio’r budd-daliad.

Mae’n honni bod symptomau o broblemau iechyd meddwl ar gynnydd, a bod unigolion yn cael trafferth prynu bwyd a thalu rhent.

Problemau

“Yn Sir y Fflint, rydym yn wynebu nifer sylweddol o heriau a phroblemau yn gysylltiedig â chyflwyniad gwasanaeth lawn y Credyd Cynhwysol,” meddai’r adroddiad.

“Yn rhannol oherwydd y sustem newydd a’r diwylliant o geisio [am fudd-daliadau], a’n rhannol oherwydd bod prosesau’r Credyd Cynhwysol o hyd yn cael eu datblygu.”

Bydd Cyngor Sir y fflint yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth, Tachwedd 21.

Credyd Cynhwysol

Diwygiad lles yw’r Credyd Cynhwysol sydd yn cyfuno chwe math gwahanol o fudd-dal gan gynnwys credyd treth gwaith, cymorth cyflogaeth a budd-dal tai.

Cafodd gwasanaeth lawn y sustem ei chyflwyno yn Sir y Fflint ym mis Ebrill eleni, ac mae’r sustem eisoes wedi’i feirniadu oherwydd bod cyfnod aros chwe wythnos o hyd am y tâl gyntaf.