Mae disgwyl i Bwyllgor Busnes y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu heddiw a ydyn nhw’n cefnogi cynnal pleidlais yn y siambr allai arwain at ymchwiliad i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r cynnig wedi’i gyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig ac mae’n dilyn honiadau diweddar gan y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, wnaeth ddisgrifio “awyrgylch wenwynig” o fewn y llywodraeth.

 

Yn ogystal, yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, daeth honiadau gan Steve Jones a fu’n gweithio’n ymgynghorydd arbenigol i Carwyn Jones ei fod yntau’n ategu sylwadau Leighton Andrews.

 

Ond mewn ymateb ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw’n “adnabod y sylwadau” fod bwlio o fewn rhengoedd ucha’r llywodraeth.

 

Pwyllgor busnes

 

Mae disgwyl i’r pwyllgor busnes benderfynu heddiw a ydyn nhw’n cefnogi cynnal pleidlais allai arwain at ymchwiliad, ac mi fydd angen cefnogaeth y gwrthbleidiau i wneud hynny.

Mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig mae Andrew RT Davies yn cyfeirio’n benodol at gwestiwn Darren Millar yn 2014 lle ofynnodd i’r Prif Weinidog a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio, lle mae Carwyn Jones yn nodi na chafodd honiadau eu gwneud.