Mae llai o fyfyrwyr rhyngwladol o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn astudio yng Nghymru o gymharu â phedair blynedd yn ôl.

 

Mae ymchwil gan sefydliad Prifysgolion Cymru yn dangos fod 16.2% yn llai o fyfyrwyr o wledydd y tu allan i’r UE (tua 3,230) wedi astudio yng Nghymru yn 2015/16 o’i gymharu â 2013/14.

 

Yn ôl yr ymchwil, mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu’n fawr at economi’r wlad gyda’r lleihad hwn yn arwain at golled o £59.8m i Gynnyrch Domestig Gros Cymru.

 

Ond mae canran y myfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi parhau’n gyson dros y ddwy flynedd diwethaf er gwaethaf pleidlais Brexit.

 

‘Cyfraniad arwyddocaol’

 

Mae’r ymchwil wedi’i gynnal gan Viewforth Consulting ac yn ôl Sefydliad Prifysgolion Cymru mae myfyrwyr rhyngwladol yn “tanio’r economi, yn creu swyddi ac yn hybu enillion allforion trwy ddenu mwy o ymwelwyr.”

 

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos fod cryfder prifysgolion Cymru yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd i astudio yma yn cynnig gwerth cymdeithasol ac economaidd i’n campysau a’n cymunedau, a bod myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i economi Cymru yn fwy cyffredinol,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru.

 

Ffyrdd o ‘gefnogi’

 

“Mewn amgylchedd masnachu mwyfwy byd-eang, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â syniadau newydd, sgiliau pwysig a chysylltiadau â rhwydweithiau ledled y byd,” meddai Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru.

 

“Daw’r cysylltiadau hyn yn fwy allweddol fyth mewn economi wedi Brexit, ac mae’n hollbwysig fod y llywodraeth a chymunedau lleol yn edrych ar sut allant gefnogi gwaith rhyngwladol prifysgolion Cymru i sicrhau y gallant barhau i helpu’r wlad i ffynnu.”

 

Ffigurau eraill

 

Mae’r ymchwil yn dangos fod 22,190 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi astudio yng Nghymru rhwng 2015 a 2016 o 140 o wahanol wledydd.

 

Daw 5,460 o’r rheiny o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (heb gynnwys Prydain) a 16,730 o du allan i’r undeb – gyda’r rhan fwyaf yn dod o Asia.

 

Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli 17% o holl fyfyrwyr Cymru, ac yn ôl yr ymchwil mae myfyrwyr rhyngwladol wedi cyfrannu £716m at economi Cymru yn 2015/2016.