Bydd ymgyrchwyr yn cynnal gwylnos yn y Senedd prynhawn heddiw, er mwyn “ysbrydoli” dynion a bechgyn i helpu yn yr ymgyrch i atal trais yn erbyn merched.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o bob un o bleidiau’r Cynulliad gymryd rhan, ac mi fydd côr Bechgyn Bro Taf yn perfformio yno.

Bydd disgyblion o Ysgol Coedcae, Llanelli, yn cyflwyno fideo ar berthnasau iachus; ac mi fydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth Logo Rhuban Gwyn.

Bydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru (SyM Cymru), hefyd yn cynnal dadl ar y thema ‘ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn herio pob math o drais yn erbyn merched’.

“Ysbrydoli”

“Mae trais yn erbyn merched yn fater cuddiedig ac mae ei gyffredinrwydd yn arswydus ac yn annerbyniol,” meddai Cadeirydd SyM Cymru, Mair Stephens.

“Gall dynion fod yn weithredwyr newid gan chwarae rôl hanfodol fel modelau rôl bositif i helpu ni i gyflawni newid mewn diwylliant lle nad yw trais yn erbyn merched yn cael ei goddef gan gymdeithas.”