Mae Heddlu West Midlands wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw’n ymwybodol o unrhyw gŵyn am farchnad Nadolig Birmingham.

Roedd y farchnad a’r heddlu wedi cael eu beirniadu ar wefan gymdeithasol Facebook dros y penwythnos am iddyn nhw wrthod derbyn trwyddedau gyrru â geiriau Cymraeg arnyn nhw fel prawf o oedran.

Yn ôl y neges gan Cheow-Way Lee, cyn-ymgeisydd i Blaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, ac yn Gynghorydd Cymuned Blaid Cymru, roedd ffrindiau plentyn ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun wedi mynd i’r farchnad ond wedi methu â mynd i mewn “am fod geiriau ‘tramor’ ar y trwyddedau gyrru”.

Fe geisiodd y criw gymorth yr heddlu oedd yn mynd heibio, ond dywed y neges yn y grŵp ‘Bella Gwalia’ ar Facebook fod eu hagwedd yn “elyniaethus”.

Dywed Cheow-Way Lee ei fod e wedi cynghori’r criw “i gwyno wrth Siambr Fasnach Birmingham a Safonau Masnach”, ac fe ddywedodd fod y teuluoedd yn bwriadu mynd at yr heddlu.

Ychwanegodd ei bod yn “annerbyniol fod trwyddedau gyrru yn cael eu hystyried yn ‘ffug’.”

Ymateb yr heddlu

Ond wrth ymateb heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu West Midlands wrth golwg360: “Dydy’r heddlu ddim yn ymwybodol ar hyn o bryd o gŵyn swyddogol am ymddygiad swyddogion mewn perthynas â gwrthod cerdyn adnabod Cymraeg ym marchnad Nadolig Birmingham.

“Pe bai cŵyn swyddogol, fe fydd Heddlu West Midlands yn ymchwilio.”