Mae pwyllgor craffu Cyngor Ceredigion wedi gwrthod cais i ystyried y penderfyniad i gau cartref gofal preswyl yn Aberystwyth o flaen y cyngor llawn.

Pleidleisiodd Cabinet y Cyngor o blaid cau Cartref Bodlondeb ar 7 Tachwedd, ac mae’r penderfyniad heddiw yn golygu bod y frwydr i geisio achub y cartref ar ben.

Gwnaeth y Pwyllgor Craffu hefyd gefnogi’r cynnig i rwystro’r cartref rhag derbyn rhagor o breswylwyr.

Dadl y Cyngor yw bod yn rhaid cau’r safle oherwydd ei fod yn gwneud colledion difrifol bob blwyddyn ond mae nifer o bobl wedi protestio yn erbyn cau’r cartref gofal preswyl.

Bydd 33 o swyddi yn cael eu colli, ac 11 o breswylwyr yn colli eu cartref pan fydd y safle’n cau. Mae disgwyl iddo gau erbyn Mawrth 31, 2018.