Mae bachgen ysgol, sydd wedi’i gyhuddo o gynllwynio ymosodiad brawychol yng Nghaerdydd, wedi honni iddo chwilio ar y we am bynciau “arswydus”, gan gynnwys Jihadi John o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) – am ei fod yn chwilfrydig ac awydd gwybod mwy.

Yn Llys y Goron Birmingham dywedodd y bachgen 17 oed wrth y rheithgor nad oedd bwriad ganddo i gynnal ymosodiadau brawychol pan gafodd ei arestio a’i fod wedi chwilio am wybodaeth am “greu” ymosodiad ar y we er mwyn gweld pa mor hawdd fyddai dod o hyd i ddeunydd brawychol ar-lein.

Mae’r bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw oherwydd ei oedran, yn gwadu paratoi i gyflawni gweithred brawychol a phedwar cyhuddiad arall yn ymwneud a brawychiaeth, ar ôl i forthwyl a chyllell gael eu darganfod yn ei fag ysgol.

Yn ystod ail wythnos yr achos, bu’r bachgen yn rhoi tystiolaeth y tu ôl i sgrin.

Dywedodd y llanc croenwyn nad oedd yn berchen ar gopi o’r Koran, ei fod yn bwyta cig moch ac nad oedd yn credu mewn Islam.

Clywodd y llys bod y llanc wedi cael ei arestio ar 30 Mehefin eleni ar ôl iddo chwilio am fanylion y mesurau diogelwch ar gyfer cyngerdd Justin Bieber yng Nghaerdydd.

Fe fydd yr achos yn parhau ddydd Mawrth.