Mae ymchwiliad Cyngor Sir Ceredigion i safle sŵ Borth yng ngogledd y sir yn parhau wedi i un lyncs ddianc oddi yno dair wythnos yn ôl, ag un arall dagu i farwolaeth.

Ond mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook, mae perchnogion Borth Wild Animal Kingdom wedi diolch am “gymorth a chefnogaeth” pobol wedi i griw ddod ynghyd ddoe i ddechrau ar y gwaith o atgyweirio’r safle.

“Dydyn ni ddim yn gwneud incwm o’r sŵ, mae unrhyw elw yn cael ei roi’n syth yn ôl i droi’r sŵ yma’n lloches i bobol ac anifeiliaid,” meddai’r perchennog mewn neges ar y wefan.

Er hyn mae’r sŵ wedi’i beirniadu’n hallt am y ffordd y mae’n gweithredu wedi i’r lyncs cyntaf, Lillith, ddianc, ac un arall, Nilly, gael ei thagu i farwolaeth drwy geisio ei symud.

Mae mwy na 10,000 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw am gau’r sŵ.

Mae ymchwiliad Cyngor Sir Ceredigion i’r safle ac i’r digwyddiadau’n parhau