Bydd Pwyllgor Craffu Cyngor Sir Conwy yn trafod y posibilrwydd o gasglu sbwriel unwaith y mis mewn cyfarfod heno (Tachwedd 20).

Cafodd peilot o’r cynllun ei gynnal adeg Hydref 2016, ac yn ôl y Cyngor mi arweiniodd at gynnydd yn y lefelau o wastraff gafodd ei ailgylchu.

Mae’n debyg y  cynyddodd y lefel yma gan 14% mewn rhai ardaloedd, a bu cwymp mewn gwastraff oedd yn cael ei osod mewn biniau du.

Yn ogystal â’r manteision amgylcheddol, mae’r Cyngor hefyd yn nodi y gallai cyflwyno’r cynllun arwain at arbedion gwerth £390,000 y flwyddyn.

Bydd y mater yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Sir Conwy ar Ragfyr 5.