Mae’n agos at 5,000 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein i gadw canolfan awyr agored ym Mhowys ar agor.

Mae Cyngor Sir Powys wedi penderfynu cau canolfan awyr agored Penffordd-las rhwng Llanidloes a Llanbrynmair ar ddiwedd mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Ond yn ôl y ddeiseb, sydd â mwy na 4,700 o lofnodion, mae’r ganolfan yn “sefydliad hyfyw” sy’n cynnig cyfleoedd addysgiadol i blant y sir a’r tu hwnt fwynhau yn yr awyr agored.

Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg gan Freedom Leisure, ar ran yr awdurdod lleol ers 2015 ac yn agor rhwng mis Mawrth a Hydref fel arfer.

Ond mae’r ddeiseb yn galw am gynllun busnes i agor y ganolfan drwy’r flwyddyn fyddai’n ei wneud yn wasanaeth addysgiadol mwy “hunangynhaliol.”