Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes lle “i gosbi plant yn gorfforol yn y Gymru sydd ohoni.”

 

Mi fydd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, yn cynnal ymgynghoriad i’r mater ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf gyda’r bwriad o gyflwyno deddf i waredu ag ‘amddiffyniad’ fel cosb resymol.

 

O gyflwyno’r ddeddf, mi fydd plant yng Nghymru’n cael eu hamddiffyn rhag cosb gorfforol o dan y gyfraith.

 

Ymgynghoriad

 

Daw sylwadau’r Aelod Cynulliad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant heddiw, lle mae’n trafod yr ymgynghoriad mewn digwyddiad yn Abertawe.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau’r ymgyrch #TrafodMaguPlant gyda bron i 1,000 o ymatebion wedi dod i law mewn arolwg ar-lein hyd yn hyn.

 

“Fel y Gweinidog dros Blant, fe fyddaf yn gweithio i sicrhau bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn a’u parchu,” meddai.

 

Mae’n ychwanegu fod y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc Cymru 2011 wedi “torri cwys newydd.”

 

“Roeddem yn ddigon dewr i fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig, ac yn un o’r ychydig wledydd yn Ewrop a’r byd i roi’r fath drefniadau yn eu lle.”

 

Agweddau ‘wedi newid’

 

“Mae ein dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i amddiffyn a chefnogi plant a’u teuluoedd wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd,” meddai.

 

“Mae’r hyn sy’n dderbyniol mewn cymdeithas wedi newid oherwydd hynny. Nid yw’n dderbyniol bellach, mewn cymdeithas fodern a blaengar, i gosbi plant yn gorfforol.”

 

“Fel Llywodraeth, peth cwbl briodol yw gweithredu i amddiffyn plant a chefnogi rhieni i ddefnyddio cosbau amgen, sy’n gadarnhaol ac yn effeithiol.”