Mae marchnad Nadolig Birmingham a Heddlu West Midlands wedi cael eu beirniadu ar wefan gymdeithasol Facebook ar ôl gwrthod derbyn trwyddedau gyrru â geiriau Cymraeg arnyn nhw fel prawf o oedran.

Yn ôl y neges gan Cheow-Way Lee, cyn-ymgeisydd i Blaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, ac yn Gynghorydd Cymuned Blaid Cymru, roedd ffrindiau plentyn ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun wedi mynd i’r farchnad ond wedi methu â mynd i mewn “am fod geiriau ‘tramor’ ar y trwyddedau gyrru”.

Fe geisiodd y criw gymorth yr heddlu oedd yn mynd heibio, ond dywed y neges yn y grŵp ‘Bella Gwalia’ ar Facebook fod eu hagwedd yn “elyniaethus”.

Dywed Cheow-Way Lee ei fod e wedi cynghori’r criw “i gwyno wrth Siambr Fasnach Birmingham a Safonau Masnach, ac fe ddywedodd fod y teuluoedd yn bwriadu mynd at yr heddlu.

‘Annerbyniol’

Ychwanegodd ei bod yn “annerbyniol fod trwyddedau gyrru yn cael eu hystyried yn ‘ffug’.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Heddlu West Midlands.