Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru benodi Cymro’n rheolwr nesa’r tîm cenedlaethol, yn ôl Chris Coleman.

Ymddiswyddodd e o’i rôl nos Wener, gydag adroddiadau’n dweud ei fod yn agos at gwblhau trafodaethau i fynd yn rheolwr ar dîm Sunderland, sydd ar waelod y Bencampwriaeth.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl i Gymru fethu â chyrraedd Cwpan y Byd 2018, ychydig dros flwyddyn ar ôl eu haf hanesyddol yn Ewro 2016, lle cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol.

Mae Ryan Giggs, Tony Pulis a Craig Bellamy ymhlith yr enwau sydd wedi’u crybwyll ar gyfer y swydd.

‘Tîm da a chwaraewyr ifainc’

Ac fe drafododd Chris Coleman y swydd wrth iddo deithio i Gasnewydd i droi goleuadau’r Nadolig ymlaen.

“Mae angen Cymro angerddol, yn fy marn i.

 

“Fe ddylai weithio i gyflawni’r hyn y mae’r genedl gyfan yn edrych tuag ato, sef tîm da gyda chwaraewyr ifainc yn torri drwodd.

“Ond yn amlwg, nid fy mhenderfyniad i yw hynny.”

Llwyddiannau a methiannau

Dechrau digon cythryblus gafodd Chris Coleman wrth y llyw yn dilyn marwolaeth ei ffrind agos, Gary Speed yn 2012.

Collodd Cymru o 6-1 yn erbyn Serbia yn fuan wedyn, ac roedd y cefnogwyr i’w gweld wedi colli amynedd â’r rheolwr newydd o fewn dim o dro.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, fe arweiniodd y tîm i gystadleuaeth fawr am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd, cyn colli yn erbyn Portiwgal yn rownd gyn-derfynol Ewro 2016.

Y bennod nesaf

Ond mae Chris Coleman wedi amnewid Stadiwm Dinas Caerdydd am y Stadium of Light, mae’n ymddangos, ac fe allai fod wrth y llyw ar gyfer eu gêm yn erbyn Aston Villa nos Fawrth.

Maen nhw ar waelod y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.

Wrth ddiolch i gefnogwyr Cymru, ychwanegodd Chris Coleman: “Ry’n ni i gyd yn Gymry angerddol, felly diolch enfawr i chi am bopeth ry’ch chi wedi’i wneud i fi a’r tîm dros y chwe blynedd diwethaf.

“Ry’ch chi wedi bod yn hollol anhygoel.”