Mae Aled Jones wedi ymddiheuro ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y BBC yn ymchwilio i’w ymddygiad amhriodol honedig dros ddegawd yn ôl.

Fydd cyflwynydd Songs Of Praise ddim yn ymddangos ar raglenni’r gorfforaeth tra eu bod nhw’n cynnal yr ymchwiliad.

Dywedodd fod yn “flin iawn” ganddo, ond mae e wedi gwadu “cyswllt amhriodol”.

Mae lle i gredu nad yw’r honiadau’n ymwneud â’i waith fel cyflwynydd, ond mae e wedi cytuno i gamu o’r neilltu am y tro.

Dywedodd llefarydd fod Aled Jones yn “derbyn bod ei ymddygiad dros ddegawd yn ôl yn blentynnaidd”.

Gyrfa

Fe ddaeth y Cymro Cymraeg i’r amlwg fel plentyn pan ganodd y gân Walking In The Air.

Derbyniodd MBE yn 2013 am ei wasanaeth i’r byd cerddorol a darlledu.

Mae’n gyflwynydd ar orsaf Classic FM ers 2002, ac mae’n darlledu ar Radio 2 ar fore Sul.

Mae ganddo fe ddau o blant.

Mae’r BBC wedi gwrthod gwneud sylw.