Cymru 13–6 Georgia

Cymru aeth â hi mewn gêm hynod ddiflas yn erbyn Georgia yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Hallam Amos gais cynnar wrth i ail dîm Cymru ddechrau’r gêm yn dda ond dyna a oedd un o unig uchafbwyntiau’r prynhawn mewn gwirionedd.

Hanner Cyntaf

Roedd Rhys Priestland yn rheoli popeth i Gymru yn chwarter cyntaf y gêm. Ciciodd maswr Caerfaddon bwyntiau cyntaf y prynhawn cyn creu’r cais agoriadol i Amos gyda phas hir dda, 10-0 y sgôr wedi trosiad Priestland hanner ffordd trwy’r hanner.

Cafodd Georgia gyfnod gwell wedi hynny ond llwyddodd Cymru i amddiffyn yn ddigon cyfforddus gan ildio tri phwynt yn unig, o droed Soso Matiashvili  ddeuddeg munud cyn yr egwyl.

Roedd Amos yn meddwl ei fod wedi sgorio’i ail gais ef ac ail ei dîm wedi gwrthymosodiad da o’i hanner ei hun ond cafodd y sgôr ei gwrthod gan y dyfarnwr fideo gan i’r bêl fynd ymlaen yn gynharach yn y synudiad.

Ail Hanner

Nid oedd hi cystal gêm wedi’r egwyl, cafwyd mwy o sgrymiau a leiniau a thipyn llai o chwarae agored. Doedd fawr o syndod felly mai Georgia a gafodd y gorau o’r ail hanner.

Ciciodd Matiashvili ail gic gosb i roi’r ymwelwyr o fewn pedwar pwynt cyn i Priestland adfer y saith pwynt o fantais toc wedi’r awr.

Bu rhaid i Gymru amddiffyn yn ddewr yn y chwarter olaf, yn enwedig felly yn dilyn cerdyn melyn Tomas Francis yn y munudau olaf.

Cafwyd tipyn o ddryswch ynglyn â’r rheolau yn ymwneud sgrymiau cystadleuol gyda Francis yn y gell gosb. Doedd neb, gan gynnwys y dyfarnwr, yn siŵr iawn beth oedd yn digwydd ond fe ddaliodd Cymru eu gafael tan y chwiban olaf i osgoi’r embaras o gêm gyfartal.

.

Cymru

Cais: Hallam Amos 19’

Trosiad: Rhys Priestland 21’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 7’, 62’

Cerdyn Melyn: Tomas Francis 80’

.

Georgia

Ciciau Cosb: Soso Matiashvili 29’, 50’