Mae mudiad PAWB – Pobol Atal Wylfa B – wedi beirniadu penderfyniad Prifysgol Bangor i sefydlu sefydliad ymchwil niwclear.

Mae’r mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn codi ail atomfa niwclear ar Ynys Môn yn dweud bod y £6.5 miliwn o arian cyhoeddus sydd wedi’i roi i’r cynllun yn wastraff arian.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu at y sefydliad newydd – yr unig un o’i fath yng Nghymru.

Yn ôl PAWB, byddai’n well ymchwilio i ynni adnewyddol yn hytrach na niwclear a hynny am fod “dirywiad” yn y diwydiant niwclear ledled y byd.

“Lle roedd China yn dechrau adeiladu 10 gorsaf niwclear mewn un flwyddyn yn 2010, eleni nid ydynt yn adeiladu unrhyw orsaf niwclear newydd o gwbl. Yn wir, un prosiect niwclear newydd yn unig sydd wedi dechrau eleni a hynny yn yr India,” meddai’r mudiad.

“Mae technolegau ynni adnewyddol yn carlamu yn eu blaenau gyda phrisiau yn gostwng yn gyflym. Mae pris melinau gwynt yn y môr bron 50% yn rhatach yn awr na’r pris cwbl afresymol y bydd rhaid talu i adeiladu dau adweithydd niwclear enfawr newydd yn Hinkley Point, Gwlad yr Haf.

“Mae’n drist gweld Prifysgol Bangor yn glynu at hybu technoleg echdoe. Cymaint mwy priodol fyddai sefydlu canolfan ymchwil ar gyfer yr holl dechnolegau adnewyddol sydd ar gael erbyn hyn.”

Horizon – niwclear yn “parhau i dyfu”

Ond mae cwmni Horizon, sy’n gyfrifol am adeiladu ail atomfa niwclear – Wylfa Newydd – ar Ynys Môn, wedi taro nôl gan ddweud bod “pŵer niwclear yn cael ei gydnabod ym mhedwar ban byd fel un o’r prif ffynonellau o drydan carbon isel dibynadwy” a bod y diwydiant yn parhau i dyfu.

Wrth groesawu’r datblygiad ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Rhanddeiliaid Horizon, y bydd y sefydliad yn rhoi cyfleoedd “hyfforddiant ac addysg academaidd ar gyfer pobl leol sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant niwclear.”

“Bydd modd iddyn nhw fyw ac astudio yn lleol, yn hytrach nag astudio ymhellach i ffwrdd o gartref ac o bosibl yn peidio â dychwelyd i’r ardal i ddod o hyd i waith,” meddai.

“Mae presenoldeb niwclear cryf yng ngogledd orllewin Cymru yn barod, gyda gweithgareddau datgomisiynu ar waith yng ngorsafoedd pŵer Trawsfynydd a Wylfa. Mae hi’n bwysig bod mentrau fel hyn yn cael eu datblygu.

“Rydyn ni’n credu nad yw hi’n fater o ynni adnewyddadwy neu niwclear, oherwydd mewn gwirionedd mae’r naill yn ategu’r llall.

“Yr her ydy sut mae symud i system o drydan carbon isel ar y cyflymder sydd ei angen er mwyn cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, ar yr un pryd â chynnal cyflenwad sefydlog sy’n diwallu’r galw rŵan ac yn y dyfodol. Er mwyn diwallu’r her hon bydd angen ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy.”

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol, “Mae Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil sylweddol mewn sawl agwedd ym maes ynni gan gynnwys ynni morol, ynni solar ac ynni niwclear.”