Fe ddaeth cadarnhad nos Wener fod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi ymddiswyddo.

Y gred yw y bydd yn cael ei benodi’n rheolwr ar dîm Sunderland ddechrau’r wythnos nesaf.

Mae ei is-reolwr, Kit Symons hefyd wedi gadael ei swydd, ac mae disgwyl iddo yntau hefyd fynd i Sunderland.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford ei fod yn “hynod siomedig” o golli’r rheolwr, a hynny yn dilyn un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Cymru.

Gyrfa ryngwladol

Cafodd Chris Coleman ei benodi fis Ionawr 2012, yn dilyn marwolaeth ei ffrind agos, Gary Speed.

Ond fe gafodd y dechrau gwaethaf posib wrth golli o 6-1 yn erbyn Serbia mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, ac roedd y cefnogwyr wedi dechrau troi yn ei erbyn ar unwaith.

Ond bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach, cyrhaeddodd Cymru rownd gyn-derfynol Ewro 2016 – eu cystadleuaeth fawr gyntaf ers 58 o flynyddoedd.

Ychwanegodd Jonathan Ford y byddai Cymru “yn fythol ddiolchgar” iddo am ei waith, ac fe ddymunodd yn dda iddo.

Cwpan y Byd 2018

Ond methodd Cymru â chyrraedd Cwpan y Byd 2018, ac roedd gan Chris Coleman gymal yn ei gytundeb oedd yn ei alluogi i adael ei swydd.

Fe gafodd ei gysylltu â sawl swydd yn ddiweddar, ond mae’n ymddangos fel pe bai e wedi dewis mynd i Sunderland, sydd ar waelod tabl y Bencampwriaeth ac a ddiswyddodd eu rheolwr, Simon Grayson dair wythnos yn ôl.

Ac mae sefyllfa ariannol fregus y clwb yn debygol o’i gwneud hi’n anodd i’r Cymro eu codi o’r gwaelodion pe bai e’n cael ei benodi.

Dyw Chris Coleman ddim wedi rheoli clwb ers pum mlynedd. Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Fulham, cyn mynd ymlaen i Real Sociedad, Coventry ac AEL yng Ngroeg.

Gwaddol

Yn ystod ei gynhadledd olaf i’r wasg cyn y gêm gyfeillgar yn erbyn Panama nos Fawrth, dywedodd Chris Coleman na fyddai staen ar ei waddol pe bai e’n penderfynu gadael.

Ac mae’n ymddangos bod yr ansicrwydd tros ddyfodol rhai o’i staff ymhlith y ffactorau a arweiniodd at y penderfyniad i adael y swydd yn y pen draw.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, fe ddatblygodd e’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr – to iau sy’n cynnwys Ben Woodburn, Ethan Ampadu a David Brooks.

Ond efallai mai ei gyflawniad mwyaf oedd codi ysbryd y garfan yn dilyn marwolaeth Gary Speed, cyd-chwaraewr a ffrind mawr oedd wedi codi drwy rengoedd Cymru gyda fe.

Fe gafodd ei feirniadu’n hallt ar y dechrau am geisio parhau i chwarae yn null ei ffrind, yn hytrach na mabwysiadu ei ddull ei hun.

Fe wnaeth e newidiadau’n raddol, gan benodi Ashley Williams yn gapten yn lle Aaron Ramsey ac er nad oedden nhw wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2014, roedd hi’n teimlo fel pe bai llwyddiant ar y gorwel.

Ond mae’r cyfan bellach ar ben, ac fe allai ei ddarganfod ei hun yn gorfod dygymod â bywyd yng ngwaelodion y Bencampwriaeth – ail haen y Gynghrair Bêl-droed – am y tro, o leiaf.

Chris Coleman, o bosib, fydd nawfed rheolwr y clwb ers 2011.

Pwy allai ei olynu?

Mae nifer o enwau eisoes wedi cael eu crybwyll i olynu Chris Coleman, ond dydy hi ddim yn glir eto i ba gyfeiriad y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n troi.

Pe baen nhw’n dymuno sicrhau sefydlogrwydd, yna mae’n debyg mai Osian Roberts fyddai’r person gorau i gynnig hynny, ac yntau wedi bod wrth ochr Chris Coleman ers 2015.

Enw arall sy’n sicr o godi yw Ryan Giggs, ond fe allai ei ddiffyg profiad gyfri yn ei erbyn, ac yntau heb fod yn hyfforddi ers gadael Man U pan gafodd Jose Mourinho ei benodi haf diwethaf.

Cymro blaenllaw arall sy’n hyfforddi yn yr Uwch Gynghrair yw Tony Pulis, ond roedd e eisoes wedi wfftio’r awgrym y gallai olynu Chris Coleman – a hynny pan oedd yr hyfforddwr yn dal yn y swydd. Ac mae’n ymddangos y gallai golli ei swydd yn West Brom, beth bynnag, yn dilyn dechrau digon siomedig i’r tymor.

Pwy bynnag fydd yn cael ei benodi, fe fydd ganddo waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod gwaddol Chris Coleman – a Gary Speed – yn parhau.