Mae cynlluniau ar droed i gofio William Williams Pantycelyn er mwyn nodi tri chan mlwyddiant ei eni.

Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i greu cofeb o’r emynydd a datblygu Canolfan Ddehongli Bywyd a Gwaith Pantycelyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio trefnu digwyddiad i gofio Pantycelyn ond eu dadl nhw yw nad oes neb wedi dod atyn nhw gyda syniadau.

Roedd dros 1,100 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw arni i drefnu rhywbeth i nodi achlysur y 300 mlwyddiant.

Ac mae’r Ysgrifennydd dros yr Economi, Ken Skates, eisoes wedi dweud ei fod yn barod i ystyried unrhyw gynigion a daw i wneud hynny.

Cofeb a chanolfan

Mae cynllun bellach wedi’i gyflwyno gan ‘Gyfeillion Pantycelyn’ i’w goffáu yn ei dref enedigol, Llanymddyfri.

Mae dau ddarn i’r cynllun – y cyntaf yw comisiynu cofeb a fyddai’n deyrnged i’w fywyd a’i waith a’i gyfraniad i fywyd cenedlaethol Cymru.

Mae ail ddarn y cais yn cynnig datblygu Canolfan Ddehongli Bywyd a Gwaith Pantycelyn yn y dref, yn ogystal â ffigyrau eraill amlwg y cylch.

 “Credwn y byddai Coffau Pantycelyn fel hyn yn Llanymddyfri yn cydnabod rhan bwysig o’n hanes cenedlaethol. Byddai hefyd yn fodd i’n hail-gysylltu gydag etifeddiaeth ysbrydol gyfoethog ein gwlad,” meddai Aled Gwyn Jôb, un o gydlynwyr Cyfeillion Pantycelyn.

“Mewn cyfnod sy’n llawn heriau gwleidyddol ac economaidd i Gymru- byddai ymdeimlo o’r newydd a’r ysbrydoliaeth sylfaenol hwn yn cynnig adnodd ychwanegol gwerthfawr iawn inni wrth edrych i’r dyfodol.”

“Mae William Williams wir yn un o gewri ein hanes, ac rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth rŵan yn barod i gydweithio gyda’r mudiad hwn i edrych ar sut y gellir gwireddu eu dymuniad i greu coffâd teilwng,” meddai’r Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth.