Siop gigydd Edwards o Gonwy sydd wedi’i choroni’n Siop Gigydd Cymreig y Flwyddyn mewn seremoni yn Llundain.

Roedd siop N.S. James o Raglan ac Eynon’s o Sanclêr ger Caerfyrddin yn y ras hefyd, ond siop “draddodiadol” y gogleddwr, Ieuan Edwards, ddaeth i’r brig.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yn Neuadd y Sir, Llundain, mewn cystadleuaeth wedi’i threfnu gan Meat Trades Journal, a’i noddi gan Hybu Cig Cymru.

“Mae cigyddion annibynnol Cymru yn enwog am safon y cig ac arbenigedd y bwtsieriaid, ac roedden ni’n falch iawn o noddi’r gwobrau yma gyda Meat Trades Journal eto eleni,” meddai Swyddog Marchnata Hybu Cig Cymru, Kirstie Jones.

“Cafodd cigyddion Cymru lwyddiant mawr yn ddiweddar, gydag ysgolor HCC Peter Rushforth yn cael ei goroni’n Gigydd Ifanc Prydain yn 2016.

“Llongyfarchiadau mawr i Eynon’s, N.S. James ac wrth gwrs i Edwards o Gonwy ar eu llwyddiant.”