Mae’r cyffuriau anghyfreithlon sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru yn gryfach ac yn fwy niweidiol nag erioed o’r blaen, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Mae’n debyg bod defnydd o ganabis synthetig cryfach wedi arwain at fwy yn cael eu trin mewn ysbytai ac yn marw.

Cocên yw hoff gyffur Cymru o hyd, ond mae nifer cynyddol o bobol yn troi at Valium, opioidau synthetig a chyffuriau lleddfu poen.

Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe yw’r ardaloedd yng Nghymru lle mae’r nifer uchaf o farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau.

Bu farw 123 o bobol oherwydd sylweddau seicoweithredol yng Nghymru a Lloegr yn 2016 – heroin ac opioidau eraill sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau cyffuriau.