Bu farw’r awdures, Glenys Mair Lloyd, yn ddisymwth o drawiad ar y galon yr wythnos hon.

Fe ddaeth yn agos at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i nofel, Heldir y Diafol – cyfrol oedd wedi’i seilio ar hanes yr anturiaethwr Vilhjalmur Steffanson a’r ddau forwr o Gymru oedd yn aelodau o’r criw a hwyliodd gydag ef i’r Arctig yng Ngorffennaf 1913.

Er iddi gael ei magu ym Mhowys – a chadw ei hacen hyfryd tan y diwedd – fe dreuliodd y blynyddoedd diwethaf yn ardal Bangor. Fe fu’n denant i’r Arglwydd Penrhyn ym mhentref Llandygai, cyn symud i gartref newydd ym Mhorth Penrhyn y llynedd.

Athrawes oedd Glenys Lloyd wrth ei galwedigaeth, nes iddi ymddeol yn 1990. Wedi hynny, fe ymroddodd i ysgrifennu yn llawn amser, gan ganolbwyntio ar nofelau ar gyfer plant a phobol ifanc, a dwyn ysbrydoliaeth o hanes Cymru a’r byd.

Y gyfrol ddiwethaf a gyhoeddodd ar gyfer oedolion oedd Piers Griffith: Pirate of Penrhyn, yn adrodd hanes môr-leidr o fardd (1568-1628) a oedd yn ddisgynnydd o’r Tywysogion Cymreig ac yn aelod o lys Elisabeth I. Roedd yn cael ei thystiolaeth o’r cerddi a ysgrifennwyd iddo ac amdano gan feirdd y Tuduriaid.

Roedd Glenys Mair Lloyd hefyd yn awdur ffilmiau dogfen, ac wedi cydweithio gyda’r cyfarwyddwr Wil Aaron a Ffilmiau’r Nant ar ddogfennau a enillodd wobrau rhyngwladol. Fe ddaeth Yn y Pacrew – taith olaf y Karluk i’r brig yng ngwobr Ffilm Orau Gŵyl Jules Verne ym Mharis yn 2006. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer radio yn Gymraeg a Saesneg.