Daeth i’r amlwg bod o leiaf £10,000  o arian y trethdalwr wedi ei dalu i Syr Clive Woodward, yr hyfforddwr oedd wrth y llyw pan enillodd tîm rygbi Lloegr Gwpan y Byd yn 2003.

Fe gafodd filoedd am annerch cynhadledd athrawon yn Llandudno am awr tros yr Haf.

Roedd wedi ei dalu gan gonsortiwm addysg gogledd Cymru, GwE, y ‘Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol yng ngogledd Cymru’ yn ôl ei wefan.

Yn ôl gwybodaeth ar y We, mae Clive Woodward yn gofyn am rhwng £10,000 a £25,000 i siarad mewn cynadleddau.

Roedd Rheolwr Cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru yn annerch y gynhadledd hefyd.

Ond roedd y gost o glywed Osian Roberts yn y cannoedd o bunnoedd – £500.

Ymateb GwE

Mae consortiwm addysg GwE wedi dweud nad ydyn nhw am ddatgelu faint gafodd Syr Clive Woodward ei dalu.

Mae rhannu manylion am gytundebau masnachol gyda siaradwyr unigol yn amhriodol, medden nhw.

“Roeddem yn teimlo bod amcanion y gynhadledd a’r gynulleidfa, yn galw am siaradwyr â’r lefel yma o brofiad, ac o’r cefndir yma,” meddai GwE.

Fe wnaethon nhw gadarnhau mai cost y gynhadledd oedd £20,875 – sy’n gyfwerth â £167 y pen, gyda 125 o bobol wedi mynychu.

Angen craffu ar y gwariant yn ôl Undeb

Mae’n rhaid craffu ar gynadleddau athrawon er mwyn sicrhau eu bod nhw werth yr arian, yn ôl yr Undeb Addysg Genedlaethol (NEU Cymru).

Daw’r galw yn dilyn adroddiadau bod yr hyfforddwr rygbi, Clive Woodward, wedi derbyn £10,000 i siarad mewn cynhadledd yn Llandudno ym mis Gorffennaf.

Er bod NEU Cymru yn ffyddiog mai achos prin yw hyn – a bod y cynadleddau yn aml o fudd i athrawon – mae’r undeb yn credu bod angen cwestiynu.

“Mae’n deg i ofyn mewn unrhyw sefyllfa lle mae arian cyhoeddus yn cael ei wario – ‘Ai dyma’r defnydd gorau o’r arian?’” meddai Swyddog Polisi NEU Cymru, Owen Hathaway, wrth golwg360.

“Mewn sawl achos dw i’n siŵr bod yr hyfforddiant sydd wedi’u darparu wedi bod gwerth yr arian. Ond, wrth gwrs mae’n ymddangos yn yr achos yma – mae swm enfawr wedi cael ei wario, ac mae adborth yn dangos mai nad dyna’r peth mwyaf addas i’w wneud.

“Yn sicr mae rhaid edrych ar y fath yma o gynadleddau i wneud yn siŵr eu bod nhw werth yr arian.”

‘Ddim yn ddefnyddiol’

Mae Owen Hathaway yn nodi bod y pris yn sicr o “godi pryderon” yn ystod cyfnod pan mae athrawon yn colli swyddi ac adnoddau yn brin oherwydd toriadau.

Yn ogystal â hynny, mae’n cwestiynu cynnwys araith Clive Woodward gan awgrymu nad oedd o werth ymarferol i’r athrawon.

“Rydym ni wedi cael gwybod yr oedd Clive ei hun yn siaradwr da,” meddai.

“Roedd pobol yn meddwl bod yr hyn oedd ganddo i ddweud yn ddiddorol. Ond doedd y fath yna o hyfforddiant, efallai, ddim yn mynd i fod o ddefnydd i’r dosbarth.

“Pan rydym ni’n wynebu sefyllfa lle bydd newid i’r cwricwlwm, rydym ni angen cefnogaeth ar rywbeth mwy ymarferol na’r hyn oedd yn cael ei gynnig.”