Mae yn “hurt” bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £3 miliwn at y gost o godi’r Egin, cartref newydd S4C yn y gorllewin.
Dyna farn un o gyn-reolwyr BBC Cymru sydd wedi sgrifennu llyfr sy’n sôn am y tensiwn fu yn y Gorfforaeth adeg sefydlu’r Sianel Gymraeg yn 1982.
Gareth Price yw awdur The Broadcasters of BBC Wales 1964-1990 sydd newydd ei gyhoeddi.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £3 miliwn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant adeiladu’r Egin.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd: “Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweledigaeth y Brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin. A bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddod â bywyd newydd i’r economi leol; yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach o hyrwyddo y Gymraeg fel iaith fyw a ffyniannus; a helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y byd academaidd a busnesau creadigol.
“Bydd ein cefnogaeth i Yr Egin yn helpu Caerfyrddin i elwa ac adeiladu ar benderfyniad S4C i symud ei bencadlys yno, gan oil le a chyfleoedd i fusnesau eraill, y Brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid i rwydweithio.”
“Hurt”
Flwyddyn yn ôl fe ddatgelodd cylchgrawn Golwg bod S4C ei hunain yn talu £3 miliwn o rent rhag-blaen – advanced rent – i’r brifysgol am gael bod yn Yr Egin.
Yn ôl Gareth Price fe fyddai yn well bod yr arian cyhoeddus a roddodd y Llywodraeth i godi’r Egin, wedi ei wario ar raglenni teledu.
“Dw i’n credu bod e’n hurt,” meddai Gareth Price.
“Dw i ddim yn credu y dyle bod y Llywodraeth fod wedi talu tair miliwn ecstra i’r Coleg i adeiladu jest swyddfa…
“Prifysgol Cymru [Y Drindod Dewi Sant] sy’n gorfod adeiladu [Yr Egin], nid S4C, ac felly sybsidi i Gaerfyrddin yw e’.
“Ond sybsidi diangen… mae yn drueni nad ydy [yr arian] wedi ei wario ar raglenni S4C…
“Ond dw i ddim yn collfarnu S4C. Dw i’n collfarnu’r Brifysgol am ofyn am ragor o arian.”
Mae Maer Caerfyrddin wedi dweud bod angen rhoi’r gorau i gwyno am symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin.
S4C – cael “llond bola” ar y cwyno
Mwy gan Gareth Price yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.