Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai Brexit caled olygu bod pobol Cymru yn gorfod aros yn hirach i gael meddyginiaethau newydd.

Yn ôl y Blaid, byddai gadael cyrff fel yr Asiantaeth Feddygol Ewropeaidd a’r Ganolfan Ewropeaidd dros Reoli ac Atal Clefydau yn golygu bod llai o ymchwil feddygol yn digwydd yn y Deyrnas Unedig.

Mae Steffan Lewis, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Allanol, bellach wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gwledydd Prydain yn parhau i fod yn rhan o’r cyrff meddygol hyn.

“Mae’n hanfodol ein bod yn edrych i mewn i ffyrdd o gynnal ein haelodaeth o gyrff meddygol Ewropeaidd ar ôl Brexit,” meddai.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, mae aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Asiantaeth Feddygol Ewropeaidd yn golygu bod “cannoedd” o dreialon clinigol yn digwydd ym Mhrydain bob blwyddyn.

Mae hynny’n cynnwys, meddai, “treialon i’r defnydd o radiotherapi sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal yn Felindre, a threial i’r defnydd o anaesthetig lleol gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.”

Galw am gyrff i gydweithio

“Os collwn fynediad [i’r cyrff Ewropeaidd] byddai hyn yn golygu na fuasem bellach yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am reoli clefydau, na allwn gyrchu cymaint o dreialon ac ymchwil feddygol, ac y bydd cwmnïau cyffuriau yn llai tebygol o geisio cofrestru eu cyffuriau yn y DG [Deyrnas Gyfunol] tra bod marchnad fwy yn yr UE.

“Rhaid i ni ystyried sut i oresgyn y problemau hyn er mwyn sicrhau y bydd cleifion yng Nghymru yn parhau i gael yr un math o fynediad at driniaeth feddygol newydd ag sydd ganddynt yn awr.”

Mae Plaid Cymru am weld “chwaer gyrff” ym Mhrydain i’r cyrff Ewropeaidd er mwyn parhau i gydweithio ar ymchwil meddygol.