Ni fydd protocol sydd wedi’i arwyddo gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig heddiw, yn rhoi “gwir reolaeth” i Gymru tros ei hadnoddau, yn ôl Aelod Cynulliad.

Nod y protocol yw rhwystro Llywodraeth Prydain rhag ymyrryd mewn materion sy’n ymwneud â dŵr Cymru.

Ond, mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, o’r gred mai ymgais yw’r cytundeb i “dynnu sylw” rhag diffygion ehangach.

Dim atebolrwydd

“Dydy’r [protocol] ddim yn creu unrhyw fath o atebolrwydd rheoleiddiol tros y diwydiant ddŵr yng Nghymru,” meddai Simon Thomas.

“Ac nid yw’n gwireddu gweledigaeth Plaid Cymru tros reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Dydyn ni ddim yn credu mai dyma yw diwedd y mater.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r protocol gael ei feirniadu gan aelod Plaid Cymru.

Pan gafodd y cynnig ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi, bu’n destun beirniadaeth gan yr Arglwydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley. Galwodd y cynnig yn “siarter ar gyfer ymyrraeth o San Steffan”.