Mae teulu o Aberdâr wedi dod o hyd i’w cath, ddwy flynedd ar ôl iddi fynd ar goll.

Roedd Molly y gath pymtheg milltir o’i chartref yng Nglyn Ebwy a chafwyd hyd iddi mewn blwch ger Ysgol Gyfun Brynmawr ddechrau’r wythnos.

Ar ôl i’r RSPCA ei chasglu, roedd microsglodyn ar y gath pedair oed yn cadarnhau bod ganddi deulu yn Aberdâr a’i bod wedi bod i ffwrdd o’i chartref am ddwy flynedd.

“Mae’r hyn mae Molly wedi bod yn gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dipyn o ddirgelwch, ond fe wnaeth hi ffeindio ei ffordd i focs yng Nglynebwy,” meddai Stephanie Davidson o RSPCA Cymru.

“Mae’n edrych fel bod rhywun wedi’i gadael. Efallai ei bod wedi crwydro ac wedi cael gofal gan rywun arall nad oedd yn gallu gofalu amdani ragor. Ond rydym ni’n falch iawn bod yna ddiwedd hapus a’i bod wedi dychwelyd at ei pherchnogion.”

“Rhyddhad”

Dywedodd perchennog Molly, Mark Evans, ei fod yn teimlo rhyddhad o gael Molly yn ôl o’r diwedd.

“Roeddwn i wedi cael fy synnu o dderbyn y galwad. Fe wnaeth hi ddiflannu yn ystod un penwythnos ym mis Medi 2015 a doedden ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddi,” meddai.

“Mae’n rhyddhad mawr ei bod hi’n iawn a gobeithio y gallai setlo’n ôl gyda ni nawr.”