Mae adeilad wedi’i ddifrodi’n ddifrifol a cherbydau wedi’u dinistrio yn dilyn tân ar ystâd ddiwydiannol yng ngogledd Sir Gaerffili.
Cafodd Gwasanaeth Dân ac Achub De Cymru eu galw i Ystâd Ddiwydiannol Penalltau ger Ystrad Mynach am 9.19 fore heddiw (Tachwedd 16).
Cafodd pum injan dân a chriwiau o Aberbargod, Merthyr Tudful, Pontypridd, Caerffili a Threharris; eu hanfon i ddiffodd y tân.
Bellach mae’r tân wedi’i ddiffodd ac mae drôn yn cael ei ddefnyddio i asesu’r ardal.