Mae’r protocol sy’n cael ei arwyddo heddiw rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan yn dangos yn dangos sut y mae’r berthynas wedi “aeddfedu” tros bron i ugain mlynedd.

Dyna ddywed Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ddisgrifio’r cam i dynnu hawl San Steffan i ymyrryd ym materion yn ymwneud â dŵr Cymru, fel un “symbolaidd”.

Golyga’r protocol, sy’n rhan o Ddeddf Cymru a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2018, “na fydd Tryweryn arall yn digwydd,” gan mai Cymru fydd â’r gair olaf pe bai mater tebyg yn codi yn y dyfodol.

“Mae rhai yn dweud bod hwn yn symbolaidd, ond mae rhaid cofio hefyd y sylw a’r pwysau mae rhai wedi rhoi ar hwn dros yr ugain mlynedd ddiwethaf a mwy, a dw i’n falch iawn fel Ysgrifennydd Gwladol i dynnu i ffwrdd yr hawl i ymyrryd,” meddai Alun Cairns wrth golwg360.

“Mae’n anodd credu ers 1999, wrth i ddatganoli gael ei sefydlu bod hawl wedi bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd â dŵr yng Nghymru.

“Felly pan gafodd hyn ei godi gyda fi, wrth fod Mesur Cymru yn pasio drwy’r Senedd, fe wnes i addo ar y pryd y bydden i’n edrych arno fe.

“Wnes i addo y byddwn i’n gwneud pob dim i dynnu ffwrdd yr hawl i ymyrryd ac felly mae hwn yn gweithredu ar yr addewid rhoddais i bryd hynny.”

‘Setlo gwahaniaethau’

Flwyddyn yn ôl, pan gyhoeddodd Alun Cairns ei addewid, dywedodd y byddai’n rhaid sefydlu’r protocol er mwyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig “setlo unrhyw wahaniaethau”.

Ond mae dod at gytundeb wedi bod yn “broses gymharol syml”, meddai’r Ysgrifennydd heddiw.

“Mae’r protocol yn gofyn bod y ddwy lywodraeth yn parchu’r hawliau ar y ddwy ochr a’n bod ni’n mynd i gydweithio.

“Mae hwn yn dangos mi allwn ni gytuno pan mae yna broblemau neu phan mae manteision drwy gydweithio er lles pobol ar y ddwy ochr [o Glawdd Offa].”