Mae angen siarad am hunanladdiad ymysg dynion yn ôl Aelod Cynulliad sy’n trefnu digwyddiad yn y Senedd ddydd Gwener (Tachwedd 17) i drafod y pwnc.

Roedd Neil McEvoy wedi trefnu’r digwyddiad cyn i’r newyddion trist am farwolaeth Carl Sargeant gyrraedd y Senedd, ond mae’n dweud bod yr amgylchiadau yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i’w gynnal.

“Roeddwn i wedi ystyried canslo’r digwyddiad i fod yn onest ond dw i’n meddwl, mae’n fwy pwysig nag erioed i barhau ag e, ond yn y ffordd fwyaf sensitif bosib,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna lawer o bethau sydd angen siarad amdanyn nhw a dw i’n meddwl y bydd y digwyddiad yn helpu pobol i wneud hynny.

“Dw i wedi cael fy synnu gan yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol gan bobol am y broblem. Mae e’n dabŵ, dyw pobol ddim yn siarad amdano.

‘Gorfod ymddwyn fel dyn’

“Mae yna stereoteipiau rhywiaethol bod rhaid i chi “ymddwyn fel dyn” a delio â phob dim, felly mae dynion yn dueddol o beidio siarad am bethau wedyn,” meddai Neil McEvoy wedyn.

“Rydyn ni’n colli pobol, a does dim syniad gyda ni beth oedd yn digwydd [yn eu bywydau], achos mae’n cael ei weld fel rhywbeth anwrol i dderbyn bod gyda chi broblemau.”

Hunanladdiad yw prif achos marwolaethau dynion rhwng 20 a 34 oed ac mae Neil McEvoy yn dweud ei fod am weld mwy o gymorth ar gael sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer.

Bydd tri siaradwr yn y digwyddiad, ‘Marw Heb Sylw’ yn Nhŷ Hywel nos Wener:

  • Erin Pizzey, sydd wedi ymgyrchu yn erbyn camdriniaeth yn y teulu
  • Wynford Ellis Owen, a sefydlodd yr elusen Stafell Fyw i helpu pobol â phroblemau gorddibyniaeth
  • Nicola Abraham, Cyfarwyddwr The Jacob Abraham Foundation sy’n ymgyrchu i leihau nifer hunanladdiadau