Mae gan Brifysgol Abertawe Adran Gemeg am y tro cyntaf ers deuddeg o flynyddoedd.
Cafodd yr adran newydd sbon ei hagor gan Lywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yr Athro Syr John Holman.
Bydd yr adran wedi’i lleoli ar Gampws Singleton y brifysgol.
Caeodd yr adran wreiddiol yn 2004 yn dilyn cwymp yn nifer y myfyrwyr oedd yn dilyn y cyrsiau, ac roedd yn rhan o batrwm ehangach oedd i’w weld drwy brifysgolion yng Nghymru a Lloegr ar y pryd.
Mae Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B. Davies yn mynnu bod y penderfyniad yn un cywir ar y pryd, ond fod galw bellach am ei hailgyflwyno am fod y brifysgol mewn “sefyllfa gryfach”.
“Mae’r byd wedi newid ers 2004. Rydyn ni nawr ymhlith y 25 o brifysgolion gorau am ymchwil yn y DU.
“Mae gennym dipyn mwy o le, gyda champws newydd sbon gwerth £450 miliwn, ac mae’r ceisiadau i astudio yma wedi cynyddu’n sylweddol.
“Mae’r cyd-destun ehangach hefyd wedi newid, gyda mwy o alw am gemeg a gwyddorau eraill, a hynny o blith myfyrwyr o dramor hefyd.”
Atgyfodi’r pwnc
Mae Prifysgol Abertawe ymhlith nifer o brifysgolion sydd wedi penderfynu cyflwyno’r pwnc unwaith eto.
Rhwng 1996 a 2007, roedd 26 o adrannau cemeg yng Nghymru a Lloegr wedi’u cau, a dim ond 55 o adrannau oedd yn dal i’w ddysgu yn dilyn cwymp o 25% mewn ceisiadau rhwng 1999 a 2004.
Ers 2005, mae oddeutu traean o adrannau cemeg Cymru a Lloegr wedi’u hailagor.