Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud nad oes ganddo fe “ddim byd” i’w ychwanegu at ei sylwadau blaenorol am yr honiadau o fwlian ymhlith staff Llywodraeth Cymru.

Roedd wedi trafod y mater yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddoe wrth drafod marwolaeth cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, oedd wedi cael ei ddiswyddo o’r Cabinet a’i wahardd o’r Blaid Lafur yn dilyn honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o “fwlian, chwarae gemau meddyliol, ffafriaeth a thanseilio personol bwriadol”, wrth i’r cyn-Weinidog Leighton Andrews honni fod Carl Sargeant wedi cael ei “dargedu”.

Ar ôl Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi awgrymu bod Carwyn Jones wedi “camarwain Aelodau’r Cynulliad” ynghylch ei wybodaeth am honiadau o fwlian o fewn Llywodraeth Cymru.

Galwodd ar y Prif Weinidog i gyfeirio’i hun yn unol â’r cod gweinidogol, gan ddweud bod ei ateb diweddaraf yn gwrthddweud ateb blaenorol yn 2014.

Y cyfarfod llawn

Yn ystod y cyfarfod heddiw (ddydd Mercher), fe ofynnodd Andrew RT Davies i Carwyn Jones a oedd e’n ymwybodol o honiadau o fwlian o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014 o ystyried yr awgrym fis Tachwedd y flwyddyn honno nad oedd honiadau wedi cael eu gwneud?

Dywedodd Carwyn Jones fod ganddo fe “ddim byd i’w ychwanegu at yr atebion wnes i eu rhoi ddoe”, gan wahodd pobol unwaith eto i ddod ymlaen pe bai ganddyn nhw wybodaeth.

Gofynnodd Andrew RT Davies pwy oedd wedi ymchwilio i’r honiadau a pha gasgliadau a gweithredoedd a ddeilliodd o’r sefyllfa. Ailadroddodd Carwyn Jones ei ateb unwaith yn rhagor.

Gofynnodd yr Aelod Cynulliad Llafur, Jenny Rathbone faint o bobol oedd wedi mynegi pryder am fwlio ers 2009, pan ddaeth e’n Brif Weinidog. Atebodd Carwyn Jones fod hynny’n fater i Adnoddau Dynol.

Yn dilyn yr ymateb hwnnw, gofynnodd Andrew RT Davies am eglurhad gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones am “union bwrpas gofyn cwestiynau pan nad ydych chi’n cynnig ateb” sydd “o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd”.

Dywedodd Elin Jones fod Carwyn Jones wedi ateb y cwestiwn, ac fe alwodd Andrew RT Davies am ymchwiliad annibynnol ar ôl y cyfarfod.