Mae’r ganran o bobol sydd yn ddi-waith yng Nghymru yn parhau’n is na’r cyfartaledd yng ngwledydd Prydain, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Rhwng mis Gorffennaf a Medi, roedd 4.1% o boblogaeth Cymru yn ddi-waith, o gymharu â 4.3% o weddill gwledydd Prydain.

Mae’r gyfradd yma ychydig yn uwch na’r gyfradd yng Nghymru rhwng Mehefin ac Awst, sef 4% – dyma’r gyfradd isaf ers i gofnodion ddechrau chwarter canrif yn ôl.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau hefyd yn dangos bod 62,000 o bobol ddi-waith yng Nghymru, sy’n gwymp 5,000 o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Er hyn, mae’r nifer o bobol sydd yn gweithio yng Nghymru wedi cwympo ymhellach – bellach mae 72.5% mewn gwaith.

“Agos i’w lefel isaf erioed”

“Cwympodd y gyfradd diweithdra yn gyflymach yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig oll,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Hefyd mae’n parhau’n is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Â’r gyfradd yn 4.1%, mae diweithdra yng Nghymru yn agos i’w lefel isaf erioed.”