Mae cynlluniau yn eu lle i leddfu’r pwysau fydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y gaeaf, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

 nifer y cleifion yn cynyddu tua’r adeg yma o’r flwyddyn, fe fydd nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ac yn y gymuned yn cael ei gynyddu, meddai.

Mae Vaughan Gething hefyd wedi cyhoeddi y bydd oriau gwaith yn cael eu hymestyn, ac mi fydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i gartrefi gofal.

Camau “cadarnhaol”

“Mae’r gaeaf yn adeg heriol i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i’r staff sy’n gweithio mor galed yma yng Nghymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd cyfres o gamau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i gryfhau gwasanaethau lleol a chenedlaethol.

“Fel llynedd, byddwn yn gweld gwasanaethau triniaeth ddydd brys yn cryfhau er mwyn i gleifion â chyflyrau penodol gael eu trin heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos lle bynnag y bo hynny’n bosib.”