Mae bachgen o ardal Rhondda Cynon Taf yn gwadu cyhuddiadau o gynllwynio ymosodiad brawychol ar Gaerdydd.

Mae’r achos yn erbyn y bachgen 17 oed wedi dechrau yn Llys y Goron Birmingham heddiw, a hynny wedi iddo gael ei arestio gan yr heddlu ym mis Mehefin eleni.

Mae’r erlyniad yn honni iddo gael ei radicaleiddio ar-lein, a chlywodd y llys ei fod wedi cyhoeddi llun o Gastell Caerdydd ar ei gyfrif Instagram, ac mae honiadau pellach iddo guddio cyllell a morthwyl yn ei fag cefn.

Yn ogystal, clywodd y llys ei fod wedi paratoi nodyn yn cynnwys cyfarwyddiadau am yr ymosodiad, ynghyd â “llythyr merthyrdod” yn dweud ei fod yn “filwr i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).”

Mae’r llanc, na ellir mo’i enwi am resymau cyfreithiol, yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac mae’r achos yn parhau.