Mae’r gantores opera o Gastell-nedd wedi cyhoeddi ei bod hi’n disgwyl ail blentyn.

Trodd at y cyfryngau cymdeithasol i gyhoeddi’r newyddion y byddai ei merch ddwyflwydd, Aaliyah, yn cael cwmni cyn hir.

Mae’r gantores 37 oed wedi dweud ei bod hithau a’i gŵr, Andrew Levitas, “wrth eu bodd” wrth iddyn nhw ddisgwyl mab bach yn ystod 2018.

Ym mis Awst eleni, daeth Katherine Jenkins i’r brig fel yr artist clasurol i werthu gorau ar siart Classic FM wrth iddyn nhw nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r orsaf radio glasurol.